Digwyddiadau Byw y Sgriblwyr Cymraeg 2024

Mae’r Sgriblwyr Cymraeg wedi ehangu yn 2024, i redeg am 5 diwrnod mewn prifysgolion ar draws Cymru rhwng 4 a 8 Tachwedd.

Mae'r gweithdai Cymraeg RHAD AC AM DDIM hyn i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8, 9) yn cael eu cyflwyno i chi fel rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli.

I gael bwrsariaeth teithio, dilynwch y ddolen hon i wneud cais am Gronfa Ewch i Weld CCC chwe wythnos cyn y digwyddiad.

Bydd y llenorion o fri, y cartwnydd Siôn Tomos Owen a’r comedïwr Leila Navabi yn arwain digwyddiadau creadigol a rhyngweithiol, sydd yn dathlu’r Gymraeg, gyda sesiynau gan y prifysgolion hefyd. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cyflwyno gan y bardd a’r perfformiwr Anni Llŷn.

Am y tro cyntaf, mae Prifysgol Abertawe yn cynnal digwyddiad ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2024, mewn cydweithrediad ag Ymestyn yn Ehangach.

Archebwch docynnau ar gyfer digwyddiadau Y Sgriblwyr Cymraeg: 4–8 Tachwedd 2024

Siôn Tomos Owen

Siôn Tomos Owen

Mae Siôn Tomos Owen yn gyflwynydd, gwawdluniwr, awdur ac yn ddarlunydd dwyieithog. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, comics, llyfrau i ddysgwyr ac e-lyfrau i blant gyda Darllen Co. Mae hefyd yn cynnal gweithdai creadigol, yn creu murluniau ac yn creu gwawdluniau mewn gwyliau trwy ei gwmni CreaSion.

Ar gyfer ei sesiwn Sgriblwyr, mae’n archwilio y bydoedd y gallwn eu hadeiladu a’r straeon y gallwn greu ar gyfer pobl rydym yn eu gweld bob dydd.

Leila Navabi

Leila Navabi

Mae Leila Navabi yn ysgrifennwr, cynhyrchydd a digrifwr. Mae hi wedi gweithio ar raglenni fel Bad Education, Nevermind the Buzzcocks ac ar ei rhaglen sitcom ei hun Vandullz. Yn y gweithdy hwn, bydd hi'n gofyn i chi rannu beth sy'n gwneud i chi chwerthin a wedyn, bydd yn dangos i chi sut i ysgrifennu sgetsh o ansawdd teledu o’r dechrau i'r diwedd.

Sesiwn Prifysgol

Digwyddiad 3: Sesiwn Prifysgol

Mae staff prifysgol o Adrannau Cymraeg yn cyflwyno sesiynau ysgrifennu creadigol neu daith prifysgol i fyfyrwyr Sgriblwyr Cymraeg, gan roi blas o fywyd ar y campws iddynt.

Anni Llŷn

Sgriblwyr Cymraeg – dan ofal Anni Llŷn

Mae Anni Llŷn yn awdur, bardd a sgriptiwr sydd wedi gweithio ar sawl prosiect i blant a phobol ifanc yn y byd cyhoeddi, adnoddau digdol ac ar gyfer y teledu. Gyda chefndir fel cyflwynydd teledu i blant a’i chyfnod yn Fardd Plant Cymru, mae ei gweithdai creadigol yn aml yn ymwneud â dychymyg ac adloniant.

Cipolwg ar Ddiwrnod Y Sgriblwyr Cymraeg

10.15amYsgolion yn cyrraedd
10.15am–10.30amCyflwyniad
10.30am–11.15amDigwyddiad 1 – Siôn Tomos Owen
11.15am–11.30amEgwyl
11.30am–12.15pmDigwyddiad 2 – Leila Navabi
12.15pm–1pmCinio
1pm–1.45pmDigwyddiad 3 – Sesiwn y Brifysgol
1.45pm–2pmCyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso
2pmDiwedd

Gweithdai didgidol y Sgriblwyr Cymraeg

Gweithdai Cymraeg digidol rhad ac am ddim a gyflwynir i chi yn rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ac sydd ar gael i’w gwylio eto yn rhydd.

Ymunwch â’r beirdd a’r awduron Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Mererid HopwoodAneirin Karadog ac Anni Llŷn ar gyfer y digwyddiadau digidol creadigol a rhyngweithiol, rhad ac am ddim hyn sy’n canolbwyntio ar leoliad, tirwedd a hunaniaeth i ddathlu’r Gymraeg.

Mererid Hopwood
Cefnogwyr Y Sgriblwyr Cymraeg