Gallwch bori yn ein dewis o ddeunyddiau addysgol, a grëwyd i ategu gwersi cyn, yn ystod ac ar ôl yr Taith y Sgriblwyr. Diolch yn fawr iawn i’r awduron a’r cyhoeddwyr a’n cynorthwyodd ni i gynhyrchu’r adnoddau hyn.
Mae Steven Camden, aka Polarbear, yn fardd, dramodydd a nofelydd, sydd wedi perfformio a chydweithio ar draws y byd. Bydd y sesiwn anffurfiol a rhyngweithiol hon yn dathlu’r straeon a'r cymeriadau tu mewn i ni gyd, wrth iddo rannu ei broses o greu byd y bydd y disgyblion yn ei boblogi â lleisiau, cerddi a mwy.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Steven Camden
Adnoddau addysgu yn dod.
Adnoddau addysgu yn dod.
Adnoddau addysgu yn dod.
Mae Emma Carroll wedi cael ei henwebu ar gyfer, ac wedi ennill, nifer o wobrau cenedlaethol, rhanbarthol ac ysgolion – gan gynnwys y Wobr i Ddarllenwyr, Books Are My Bag, Branford Boase, Medal CILIP Carnegie, Young Quills, Teach Primary a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Waterstones. Cewch fwy o wybodaeth am ei llyfrau ar: www.faber.co.uk/tutors/emma-carroll.
Mae Karl Nova yn berfformiwr Hip Hop, yn awdur ac yn fardd. Enillodd wobr CLiPPA 2018 ar gyfer Rhythm and Poetry, sef ei gasgliad cyhoeddedig cyntaf.
Ewch i wefan Karl: https://karlnovaworld.wordpress.com.
I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau addysgu, ewch i: https://clpe.org.uk/poetryline/poets/nova-karl.
Yn ogystal â bod yn awdur, Laura Bates yw sylfaenydd y Prosiect Everyday Sexism; mae hi’n gweithio'n agos gyda gwleidyddion, busnesau, ysgolion, heddluoedd a sefydliadau o Gyngor Ewrop i'r Cenhedloedd Unedig, i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol.
How to Die Famous yw ail deitl Awdur Ifanc Ben. Wedi'i ysbrydoli gan ei gyfnod fel gohebydd i’r sêr, rydym yn dilyn Abel i lawr twll cwningen Hollywood lle mae cyfrinachau, sgandal a dim ond ychydig bach o lofruddiaeth yn cuddio y tu ôl i lenni sioe deledu boblogaidd i bobl ifanc yn eu harddegau.
Dim adnoddau addysgu ar gael.
Bydd arnom ni oll angen rhywfaint o oleuni ar bethau ar brydiau – a dyna’n union beth mae Maz Evans yn dymuno’i gynnig yn y gweithdy rhyngweithiol hwn ynghylch Safbwynt. Gan gymryd detholiad o Who Let The Gods Out? byddwn yn ystyried y digwyddiadau o safbwyntiau’r holl gymeriadau gwahanol, cyn penderfynu yn nyddiadur pwy rydym yn dymuno ysgrifennu cofnod. Fel y cawn weld, gall yr un amgylchiadau ymddangos yn wahanol iawn yn dibynnu ar bwy sy’n eu hamgyffred. Wedi’r cwbl, gall ystyried digwyddiadau o safbwyntiau gwahanol ein gwneud ni’n well awduron – ac efallai’n well pobl hefyd.
Ymunwch â’r bardd arobryn Matt Goodfellow i fwynhau digwyddiad difyr a rhagweithiol ble daw geiriau yn fyw.Dewch i brofi dull perfformio ffraeth a chyfranogwch mewn gweithdy ysgrifennu sy’n dangos pam mae Matt yn credu mai ‘gwaith ysgrifenedig rebeliaid’ yw barddoniaeth ac yn caniatáu i bob person ifanc ddefnyddio’u profiadau eu hunain i ysgrifennu cerddi ‘yn eu llais eu hunain, am eu bywyd hwy’. Mae llyfr barddoniaeth diweddaraf Matt, Let’s Chase Stars Together, yn llawn o gerddi am bopeth o ffrindiau, teulu a cheisio perthyn i dyfu i fyny, bod yn falch ac yn hyderus a chanfod eich pobl. Mae’r casgliad hwn yn lle delfrydol i ymgolli, eich darganfod eich hun a bod yn gryfach maes o law.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Matt Goodfellow
Yn ystod gweithdy Femi, bydd myfyrwyr yn cydweithio i ysgrifennu stori fer o’r dechrau, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, gwyddor straeon ar syniadau hurtaf ein cyd-ddychymyg. Mae Femi yn ysgrifennu nofelau gwyddonias ar gyfer oedolion ifanc. Bydd ei nofel gyntaf, The Upper World, yn cael ei throi yn ffilm i’w darlledu ar Netflix, â Daniel Kaluuya yn chwarae’r brif ran. Yn y gorffennol, mae Femi wedi bod yn diwtor gwyddoniaeth, ymgynghorydd i reolwyr ac yn ariannwr ynni’r haul, a chafodd radd mewn Cyfrifiadura Cwantwm ym Mhrifysgolion Rhydychen a Pennsylvania. Byddwch yn barod i ehangu eich gorwelion gyda Femi yn y gweithdy hwn.
Bydd gweithdy Caroline yn rhoi sylw i rym cardiau tarot fel adnoddau i adrodd straeon, a sut gall y dull hud hynafol hwn fod yn ddefnyddiol i greu straeon, cymeriadau a sefyllfaoedd. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys cyflwyniad i adrodd y tarot, a bydd digonedd o gardiau ar gael i ddysgu oddi wrthynt. Mae Caroline O'Donoghue wedi ennill gwobr y New York Times am lyfrau sy’n gwerthu orau yn sgil trioleg 'Gifts', antur oruwchnaturiol Wyddelig sy’n rhoi sylw i griw o ffrindiau sy’n darganfod grymoedd arbennig trwy gyfrwng cardiau tarot. Mae Caroline hefyd yn bodledwraig, yn sgriptwraig ffilmiau ac yn ffrind gorau i gi bach.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Caroline O'Donoghue
Mae Steven Camden, aka Polarbear, yn fardd, dramodydd a nofelydd, sydd wedi perfformio a chydweithio ar draws y byd. Bydd y sesiwn anffurfiol a rhyngweithiol hon yn dathlu’r straeon a'r cymeriadau tu mewn i ni gyd, wrth iddo rannu ei broses o greu byd y bydd y disgyblion yn ei boblogi â lleisiau, cerddi a mwy.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Steven Camden
Yn y digwyddiad hwyliog, rhyngweithiol a difyr hwn, byddwch yn dysgu am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i straeon Kiran a'i thaith anhygoel i fod yn awdur. Mae ei llyfrau ar gyfer plant ac oedolion ifanc yn cynnwys The Girl of Ink & Stars, The Island at the End of Everything, The Way Past Winter, Julia and the Shark, a The Deathless Girls. Bydd Kiran yn mynd â disgyblion ar antur ysgrifennu creadigol hefyd yn defnyddio chwedl, gyda thema amgylcheddol cryf, i greu ac archwilio bydoedd newydd.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Kiran Millwood Hargrave
Ymunwch â'r bardd perfformio a'r dramodydd wrth iddo gyflwyno The Girl Who Became a Tree. Mae’r stori hon yn cael ei hadrodd ar ffurf cerddi, ac mae'n cyflwyno amrywiaeth eang o ffurfiau barddonol, wedi'u saernïo'n fedrus gan Joseph, i ddisgrifio naratifau a digwyddiadau. Yn y sesiwn hon, bydd yn rhoi cipolwg ar sut mae barddoniaeth mewn sefyllfa unigryw i adrodd straeon, a bydd yn gweithio gyda disgyblion i greu eu cerddi eu hunain sy'n gallu dyrnu, cicio a sgrechian.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Joseph Coelho
Cafodd yr awdur a'r actor Manjeet ei magu mewn tŷ heb lyfrau. Cafodd ei rhoi ar y bwrdd 'darllenwyr araf' yn yr ysgol iau ac yn yr ysgol uwchradd, dywedwyd wrthi "i beidio â chodi ei gobeithion" ynghylch cael TGAU Saesneg. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd Manjeet yn defnyddio ei stori ei hun i helpu i ryddhau pobl ifanc o'u hofnau ynghylch ysgrifennu, ac i agor lle ar gyfer creadigrwydd, tra'n eu cefnogi i ddod o hyd i'w llais adrodd straeon unigryw.
Ni fyddai Ali Sparkes erioed wedi dychmygu y byddai’n awdur yn y pen draw. Pan oedd hi’n bump oed, roedd hi’n meddwl mai oren gyda thair coes oedd y lythyren ‘m’. Gallwch glywed yr hanes pan fyddwch yn cwrdd ag Ali – a chael gwybod am bopeth aeth o’i le ar ei thaith i fod yn awdur, gan ddechrau gyda’r stori drist am y darllenwr a’r awdur gwaethaf yn yr ysgol. Bydd hwn yn gyflwyniad rhyngweithiol dros ben… fyddwch chi byth yr un fath eto.
Roedd y bardd arobryn, Aneirin Karadog, yn Fardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015 ac mae’n barddoni yn y Gymraeg yn bennaf. Mae’n siarad pum iaith a bu’n rapiwr yn gynt yn ei fywyd. Bydd Aneirin yn rhoi cyflwyniad dwyieithog i gelfyddyd dirgel kung-fu barddonol y gynghanedd, ac yn rhoi’r hyn sydd ei angen arnoch i fod yn feirdd o fri.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Aneirin Karadog
Mae Brian yn awdur o’r Alban sy’n ysgrifennu llyfrau cyfoes i bobl ifanc, gan gynnwys llyfrau sydd wedi ennill gwobrau, fel The BombsThat Brought Us Together, When Mr Dog Bites, The Weight of a Thousand Feathers a The M Word. Ar Daith y Sgriblwyr, bydd Brian yn herio’r disgyblion i greu darnau byr o ddialog trwy gyfres o symbyliadau gweledol a thestunau. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion greu eu cymeriadau eu hunain a rhoi llais unigryw iddynt.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Brian Conaghan
Mae Patrice yn awdur llwyddiannus na feddyliodd erioed y byddai pobl fel hi’n gallu bod yn awdur. Roedd hi’n rhy wahanol mewn sawl ffordd. Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn, bydd Patrice yn defnyddio ei hanes ei hun i helpu awduron ifanc i ddatguddio eu sgiliau adrodd straeon unigryw. Rhybudd: Mae’n bosibl y bydd dyddiadur ei harddegau yn rhan ohono.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o deunyddiau addysgol Patrice Lawrence
Jenny Valentine yw awdur Finding Violet Park a Broken Soup. Ar gyfer Taith y Sgriblwyr 2019, bydd yn arwain gweithdy ysgrifennu creadigol ar sail Ymchwiliad Safle Trosedd.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o’r cynllun gwers Ymchwiliad Safle Trosedd a’r taflenni gwaith i fyfyrwyr
Mae Emma Carroll yn athrawes Saesneg mewn ysgol uwchradd. Mae hefyd wedi gweithio fel newyddiadurwraig, casglwr afocados, a’r unigolyn sy’n gwneud tyllau mewn papur ffeilofacs. Cewch fwy o wybodaeth am ei llyfrau ar: www.faber.co.uk/tutors/emma-carroll.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o gynllun gwers Emma Carroll (Secrets of a Sun King)
Mae Karl Nova yn berfformiwr Hip Hop, yn awdur ac yn fardd. Enillodd wobr CLiPPA 2018 ar gyfer Rhythm and Poetry, sef ei gasgliad cyhoeddedig cyntaf.
Ewch i wefan Karl: https://karlnovaworld.wordpress.com.
I gael mwy o wybodaeth ac adnoddau addysgu, ewch i: https://clpe.org.uk/poetryline/poets/nova-karl.
Mae llyfr newydd Nicky, The Survival Game, yn ffilm deithio am ferch a bachgen yn ceisio cyrraedd man diogel mewn byd sydd wedi cael ei ddifrodi gan newid yn yr hinsawdd.
I ddarganfod mwy am waith Nicky, ewch i’w gwefan nickysinger.com.
Lawrlwythwch ddogfen PDF o Nodiadau Athrawon ar gyfer The Survival Game
Mae Alex Wheatle yn awdur sawl nofel, y mae rhai ohonynt wedi cael eu lleoli yn Brixton, lle cafodd ei fagu.
I gael mwy o wybodaeth, safbwynt beirniadol a llyfryddiaeth lawn, ewch i: https://literature.britishcouncil.org/writer/alex-wheatle.