Mae Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn dychwelyd gyda chyfres o weithdai ym mhrifysgolion Cymru, 3–14 Chwefror 2025, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mewn digwyddiadau rhyngweithiol bydd disgyblion yn adeiladu straeon, yn gofyn cwestiynau ac yn mynegi eu hunain trwy rym ysgrifennu. Mae awduron a chyflwynwyr yn treulio amser gyda'r disgyblion, ar y llwyfan ac oddi arno, i annog sgyrsiau creadigol trwy gydol y Daith.
Gallwch wneud cais am fwrsariaeth deithio gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Gronfa Ewch i Weld.Mae’n rhaid i chi wneud cais cyn y Nadolig 2024 i ganiatáu amser i Gyngor Celfyddydau Cymru brosesu eich cais.
Yr awdur llwyddiannus i bobl ifanc a’r eiriolwr dros bobl yn eu harddegau, Jenny Valentine, fydd yn cyflwyno Taith y Sgriblwyr ac yn annog y disgyblion i ganfod eu geiriau eu hunain i fynegi syniadau a chreadigrwydd trwy gydol y daith.
Ymunwch â Polarbear, AKA Steven Camden, wrth iddo arwain myfyrwyr trwy ei broses o greu byd stori a chreu’r agoriad ar gyfer ysgrifennu stori neu gerdd. Yn y sesiwn ryngweithiol hon, bydd myfyrwyr yn cydweithio â Steven yn ogystal ag adeiladu eu stori neu gerdd eu hunain. Gan dynnu syniadau o’i gasgliad arobryn Everything All At Once, bydd Steven yn cyffwrdd ar sut i ddefnyddio elfennau o le, rhythm a llais i ddod ag ysgrifennu yn fyw.
Yn y gweithdy hwyliog a chyflym hwn, bydd pawb yn ysgrifennu stori fer wedi'i hysbrydoli gan garreg wrach yn unig – sef carreg fechan gyda thwll yr holl ffordd drwyddi. Byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio syniadau o’ch dychymyg a’ch synhwyrau i greu awyrgylch, a gwneud i'ch ysgrifennu deimlo'n ymdrochol drwyddo draw. Yn weithdy magu hyder gwych, bydd yn ysbrydoli myfyrwyr i sylweddoli, os gallant greu stori gan ddefnyddio carreg yn unig fel man cychwyn, y gallant gyflawni unrhyw beth. Liz yw awdur arobryn dau lyfr ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ennill clod – Bearmouth ac The Twelve.
Sarah KilBride yw awdur y gyfres lwyddiannus, Princess Evie's Ponies, yn gwerthu dros filiwn o gopïau ledled y byd. Mae ei llyfr diweddaraf, Cwtsho ar gael yn Saesneg a Chymraeg. Sarah yn gweithio gydag addysg Gŵyl y Gelli ers 2023.
Mae Jenny Valentine wedi bod yn meddwl am restrau. Rhestrau hirion, rhestrau byrion, rhestrau siopa, rhestrau dymuniadau, rhestrau coll, rhestrau o bethau i'w gwneud. Mae pawb yn eu hysgrifennu, mewn un ffordd neu'r llall. Mae ein rhestrau yn dweud mwy amdanom nag yr ydym yn ei sylweddoli. Gallant fod yn ddefnyddiol iawn wrth ysgrifennu stori! Dewch i lunio rhywfaint o restrau gyda Jenny am bethau bob dydd neu bethau sy’n ymwneud â bywyd a marwolaeth. Bydd Jenny yn eich cyflwyno i'w nofel Oedolion Ifanc diweddaraf, Us in the Before and After, a fydd yn ddarlleniad brawychus, torcalonnus o hardd am farwolaeth sydyn a chanlyniadau oes un weithred drasig.
Bydd Ashley Hickson-Lovence, awdur Wild East, yn eich arwain trwy ysgrifennu soned yn y gair llafar. Mae'r gweithdy ysgrifennu creadigol rhyngweithiol hwn yn cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w llais telynegol. Bydd Ashley yn cynnwys hip-hop y DU (offerynnol) a pherfformiad byw i helpu egin awduron i grefftio sonedau ar ffurf geiriau cymhellol. Mae Ashley yn nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol a dyfarnwr pêl-droed.
10am | Mae ysgolion yn cyrraedd |
10.15am–10.30am | Cyflwyniad |
10.30am–11.15am | Digwyddiad 1 – Steven Camden (wythnos 1) / Jenny Valentine (wythnos 2) |
11.15am–11.30am | Egwyl |
11.30am–12.15pm | Digwyddiad 2 – Liz Hyder (wythnos 1) / Ashley Hickson-Lovence (wythnos 2) |
12.15pm–1pm | Cinio ac arwyddo llyfrau |
1pm–1.45pm | Digwyddiad 3 – Sesiwn y prifysgol |
1.45pm–2pm | Cyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso |
2pm | Diwedd |