Hygyrchedd

MYNEDIAD I GADEIRIAU OLWYN

Er bod yr Ŵyl ar gae, mae'r mynediad i'r lleoliadau a'r lleoliadau eu hunain ar loriau called, ac ni ddylech brofi unrhyw anawsterau wrth grwydro o amgylch y safle. I archebu lle ar gyfer cadeiriau olwyn yn y lleoliadau, rhowch wybod i staff y Swyddfa Docynnau wrth archebu eich tocynnau (wrth archebu ar-lein, nodwch eich gofynion gan ddefnyddio'r blwch 'Nodiadau' wrth y ddesg dalu); byddwn yn sicrhau bod lle addas yn cael ei gadw ar eich cyfer.

POBL FYDDAR A THRWM EU CLYW 

Ein nod yw is-deitlo ein holl ddigwyddiadau ar-lein; mae hyn yn cynnwys y rhai a gaiff eu ffrydio ar gyfer Penwythnos y Gaeaf. Os ydych yn mynychu digwyddiadau byw yn bersonol, byddwn yn darparu dolen glywed yn y prif leoliad.

POBL DDALL NEU SYDD Â NAM AR EU GOLWG 

Gallwn anfon y rhaglen atoch ar ffurf Microsoft Word, y gellir ei chwyddo, ac sy’n haws ei darllen trwy feddalwedd testun i leferydd. Rydym hefyd yn hapus i archebu ar eich rhan; anfonwch neges e-bost i accessibility@hayfestival.com os oes angen rhagor o gymorth arnoch.

YMWELWYR NIWROWAHANOL 

Rhowch wybod i ni os hoffech osgoi ciwio; gallwn gadw sedd sy'n addas i chi yn y lleoliad. Neu os oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau bod eich ymweliad yn un gwych, anfonwch neges e-bost i accessibility@hayfestival.com

GOFALWYR

Os oes arnoch angen gofalwr i allu mynychu un o’n digwyddiadau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau i sicrhau tocynnau am ddim ar ei gyfer. 01497 822 629

PARCIO

Mae lleoedd parcio i’r anabl yn y prif faes parcio yn y Gelli Gandryll – a leolir ar Heol Rhydychen, Y Gelli Gandryll, HR 3 5AJ. 

TOILEDAU

Mae toiledau i’r anabl ar gael ymhob lleoliad.

COVID-19

Gweler ein Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth am ein mesurau diogelwch presennol. 

CYFFREDINOL

Mae Gŵyl y Gelli wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau i bawb, waeth beth fo eich anabledd. Os oes arnoch angen unrhyw help ychwanegol nad yw wedi'i restru uchod, cysylltwch â accessibility@hayfestival.com a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eich ymweliad mor rhwydd a di-straen â phosibl.