Mae llefydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Dewiswch nifer y llefydd sydd eu hangen arnoch ar gyfer athrawon / disgyblion drwy ddefnyddio’r bocsys isod, ychwanegwch at eich basged, a symudwch ymlaen i dalu (am ddim).
Byddwch yn derbyn derbynneb drwy e-bost i gydnabod eich archeb. Gallwch brynu llyfrau ar y diwrnod o Siop G?yl y Gelli.
Bydd yr holl ddigwyddiadau yn cael eu ffrydio’n fyw ar y diwrnod, ac maen nhw’n rhad ac am ddim i’w gwylio eto yn ddiweddarach ar Hay Festival Anytime (mae capsiynau yn Saesneg). Os hoffech wylio ar-lein, cofrestrwch i gael mynediad i’r digwyddiad. Byddwn yn anfon e-bost atgoffa atoch cyn eich digwyddiadau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at schools@hayfestival.com.
Places are on a first-come first-served basis. Select the number of teacher/pupil places you require using the quantity boxes below, add to your basket and proceed to (free) checkout. You will receive an email receipt in acknowledgement of your order.
Pupils can buy books on the day from the Hay Festival Bookshop.
All events will be livestreamed on the day and are free to watch again later on Hay Festival Anytime (captioned in English). If you wish to watch online, please register below to access each event. We will send a reminder email in advance of your events.
If you have any questions, please email schools@hayfestival.com.
Mae’r awdur arobryn ac Ysgrifennydd Preswyl BookTrust, yn arwain digwyddiad gafaelgar sy’n dathlu ei llyfr dirgelwch diweddaraf People Like Stars. Neidiwch mewn i stori o gyfrinachau sydd wedi’u hen gladdu a phŵer cryf cyfeillgarwch, wrth i Patrice gyflwyno cast unigryw ac annisgwyl o gymeriadau sydd ar daith i ddatgelu’r gwir am Vixen – artist graffiti dirgel sydd â chysylltiadau posibl â gorffennol teuluol lliwgar. Disgwyliwch bethau annisgwyl ar bob tudalen, wrth i Patrice drafod yr ysbrydoliaeth go iawn y tu ôl i’w gwaith, balchder a bywiogrwydd treftadaeth gymysg, ac wrth iddi rannu awgrymiadau amhrisiadwy ynghylch crefftio eich dirgelwch cymhellol eich hun.
The award-winning author and BookTrust Writer in Residence leads an enthralling event celebrating her latest page-turning mystery People Like Stars. Dive into a story of long-buried secrets and the unshakable power of friendship, as Patrice introduces a unique and unexpected cast of characters on a mission to uncover the truth about Vixen – a mysterious graffiti artist with possible ties to a chequered family past. Expect surprises at every turn as Patrice discusses the real-life inspirations behind her work, the pride and vibrancy of mixed heritage, and shares invaluable tips on crafting your own compelling mystery.
Dilynwch Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, wrth iddi drafod ei blodeugerdd arloesol... mae And I Hear Dragons yn gasgliad o leisiau amrywiol sy’n arddangos ystod o brofiadau ar draws Cymru, sy’n canolbwyntio ar hunaniaeth, a dreigiau! Mae Hanan yn awdur, bardd ac artist, ac yn gyd-sylfaenydd y grŵp meic agored ‘Where I’m Coming From’; ei phamffled gyntaf ydy My Body Can House Two Hearts. Mae ei gwaith wedi cael ei berfformio a’i gyhoeddi ar lwyfannau fel BBC Cymru, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig.
Follow National Poet of Wales Hanan Issa as she delves into her ground-breaking anthology... And I Hear Dragons is a collection of diverse voices showcasing a range of experiences across Wales, focusing on identity, and dragons! Hanan is a writer, poet and artist, as well as co-founder of the ‘Where I’m Coming From’ open mic collective, whose debut pamphlet is My Body Can House Two Hearts. Her work has been performed and published on platforms such as BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, StAnza Festival, Poetry Wales, Wales Arts International and the British Council.
Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i osgoi difodiant? Ewch yn ôl i’ch cread ar gyfer y digwyddiad epig hwn gyda’r awdur a’r sŵolegydd Jules Howard. Mae pob anifail ar y blaned wedi bod ar daith beryglus iawn dros filiynau o flynyddoedd... taith o’r enw esblygiad! Bu enillwyr a cholledwyr, ffrindiau a gelynion, a brwydrau i oroesi, a nawr, mae’r pŵer yn eich dwylo chi. Dewiswch eich llwybr eich hun trwy amser, a gweld a ydych chi’n goroesi ac yn ffynnu…neu’n wynebu difodiant! Mae llyfrau ffeithiol poblogaidd Jules i blant yn cynnwys The Who, What, Why of Zoology, Respect the Insect ac Encyclopedia of Animals.
Do you have what it takes to avoid extinction? Return to your blob beginnings for this epic event with author and zoologist Jules Howard. Every animal on the planet has been on a death-defying journey across millions of years… a journey called evolution! There have been winners and losers, friends and enemies, and struggles for survival, and now the power is in your hands. Choose your own path through time and see if you survive and thrive... or go extinct! Jules’s popular non-fiction books for children include The Who, What, Why of Zoology, Respect the Insect and Encyclopedia of Animals.
Mae Lily Dyu yn byw mewn cwm yng Nghymru a thrwy ei hysgrifennu, mae’n hi’n adrodd straeon gwir am bobl o bob cwr o’r byd. O lanhau’r Afon Mississippi mawreddog i amddiffyn rhyfeddodau coedwig law’r Amazon, bydd straeon Lily yn mynd â chi o gwmpas y byd i gwrdd â’r arloeswyr sy’n achub ein planed ac sy’n amddiffyn ein dyfodol. Gyda heriau fel newid hinsawdd, llygredd a dinistrio cynefinoedd, weithiau, mae’n gallu teimlo fel nad oes llawer o obaith i natur, ond bydd ei straeon bywyd go iawn yn dangos i chi fod newid wir yn bosibl, a’i fod yn digwydd o’ch cwmpas ymhobman!
Lily Dyu lives in a Welsh valley and, through her writing, she tells true stories about people from all over the world. From cleaning-up the mighty Mississippi River to protecting the wonders of the Amazon rainforest, Lily’s stories will take you around the world to meet the trail-blazers saving our planet and defending our future. With challenges such as climate change, pollution and habitat destruction, it can sometimes feel that there is little hope for nature, but her real-life stories will show you that change really is possible and that it is happening all around you!
Sleifiwch mewn i antur ddoniol yn Hollywood gyda Bardd Plant Waterstones, Frank Cottrell-Boyce. Yn The Blockbusters!, mae’r bachgen newydd Rafa a’i ffrindiau yn crwydro ar ddamwain ar set ffilm flocbyster fawr. Y peth olaf mae Rafa’n ei ddisgwyl yw dod yn ecstra, ond pan fydd ei frawd mawr yn diflannu, mae’n ymuno â lleoliad nesaf y criw i geisio dod o hyd iddo. Bydd Frank yn perfformio darlleniadau, yn rhannu awgrymiadau ysgrifennu ac yn rhoi cipolwg i chi ar gyffro ac anhrefn creu ffilmiau!
Sneak into a hilarious adventure in Hollywood with the Waterstones Children’s Laureate, Frank Cottrell-Boyce. In The Blockbusters! new boy Rafa and his friends accidentally stray onto the set of a major blockbuster movie. The last thing Rafa expects is to become an extra, but when his big brother goes awol, he joins the crew’s next location to track down the runaway. Frank will perform readings, share writing tips and give you a glimpse into the excitement and chaos of film-making!
Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut fyddai’r Duw Loki, sy’n jociwr fel, petasai’n cael ei daflu i’r Ddaear fel plentyn un ar ddeg oed? Dan arweiniad Louie Stowell, awdur y gyfres Loki: A Bad God’s Guide poblogaidd, mae’r digwyddiad hwn yn llawn ffeithiau, dwdlau a gemau, ac yn berffaith i ‘super fans’ mytholeg y Llychlyn.
Have you ever wondered what trickster god Loki would be like if they were banished to Earth as an eleven-year-old? Hosted by Louie Stowell, author of the bestselling Loki: A Bad God’s Guide series, this event is full of facts, doodles and games, and perfect for Norse myth super fans.
Dewch i glywed stori anhygoel Jack-Jack, ci mwyaf cŵl y byd! Fe wnaeth yr awdur a’r darlledwr Ben Garrod gwrdd â Jack-Jack pan roedd yn edrych ar ôl tsimpansî amddifad yn Affrica a gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ddechrau ar eu hantur fwyaf erioed. Nawr, mae Jack-Jack yn mwynhau ei gartref newydd... nes i ieir gyrraedd yn yr ardd roi diwedd ar foreau heddychlon. Mae’n argyhoeddedig bod Ronnie’r ceiliog ar ei ôl. Ydy e’n paranoid, neu ydy’r cyw iâr digywilydd hwn ar ei ôl?
Hear the amazing story of Jack-Jack, the world’s coolest dog! Author and broadcaster Ben Garrod met Jack-Jack looking after orphaned chimpanzees in Africa and together they embarked on their biggest adventure ever. Now Jack-Jack is enjoying his new home… until the arrival of chickens in the garden marks the end of peaceful mornings. He’s convinced Ronnie the rooster is out to get him. Is he paranoid or is this cheeky chicken on his case?
Ymunwch ag awdur arobryn Costa ar gyfer y digwyddiad rhyngweithiol a gweledol hwn am ei nofel ddiweddaraf, yr antur hanesyddol gyffrous Naeli and the Secret Song. Mae Naeli yn hiraethu am adnabod ei thad o Loegr, a wnaeth droi ei gefn arni pan oedd hi’n fach. Y cyfan sydd ganddi yw ei enw – a’i feiolin werthfawr. Mae tocyn i Loegr yn cyrraedd yn ddirgel, ac mae Naeli yn cychwyn ar antur a fydd yn mynd â hi o’i hannwyl India i strydoedd Llundain Fictoraidd a thu hwnt, i ddarganfod y gwir y tu ôl i’w hetifeddiaeth gerddorol. Archwiliwch themâu Jasbinder o wladychiaeth a hunaniaeth, gyda phob un wedi’u lapio mewn dirgelwch cerddorol gothig.
Join the Costa Award-winning author for this interactive and visual event about her newest novel, thrilling historical adventure Naeli and the Secret Song. Naeli longs to know her English father, who abandoned her when she was little. All she has is his name – and his precious violin. A ticket to England arrives mysteriously, and Naeli embarks on an adventure that will take her from her beloved India to the streets of Victorian London and beyond, to discover the truth of her musical inheritance. Explore Jasbinder’s themes of colonialism and identity, all wrapped in a gothic musical mystery.
Mae Anni’n awdur Cymraeg i blant. Ers iddi fod yn Fardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017, mae hi wedi cyhoeddi straeon, nofelau byr a barddoniaeth gan adeiladu stôr o brofiad fel arweinydd gweithdai ysgrifennu creadigol. Yng Ngŵyl y Gelli, bydd hi’n dod â hwyl i’r sesiwn drwy archwilio pŵer geiriau wrth i chi fod yn anturus, rhyfedd a boncyrs! Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
Anni is a Welsh language children’s author. After becoming Welsh Poet Laureate for Children (2015–17), she has published stories, short novels and poetry and has built up a store of experiences as a creative writing workshop facilitator. At Hay Festival she will bring joy to your writing skills, exploring the power of words when you’re being weird, random and bonkers! This event will be delivered in Welsh.
Paratowch i gael eich ysgubo i ffwrdd i wlad y tu hwnt i’ch dychymyg mwyaf gwyllt, gyda’r gyfres ffantasi epig newydd gan y storïwr meistr Katherine Rundell, awdur The Explorer. Ymunwch ag ymgais frys ar draws ysblander gwyllt yr Ynysfor, lle cyfrinachol yn ein byd, lle mae holl greaduriaid chwedlonus yn dal i fyw a ffynnu. Darganfyddwch ddreigiau sydd yn ddigon bach i eistedd ar eich bawd, ceffylau adeiniog, ysgyfarnogod gyda chyrn aur a gwiwerod gwyrdd caotig, sy’n siarad. Dychmygwch sut brofiad fyddai i gystadlu yn erbyn sffincsau, i hedfan allan dros y môr mewn cot sy’n hedfan – a dadorchuddio’r gyfrinach yng nghanol yr ynysoedd sy’n bygwth goroesiad y creaduriaid a’r byd ei hun.
Prepare to be swept away to a land beyond your wildest imagination with the epic new fantasy series from master storyteller Katherine Rundell, author of The Explorer. Join an urgent quest across the wild splendour of the Archipelago, a secret place in our world where all the creatures of myth still live and thrive. Discover dragons small enough to perch on your thumb, winged horses, gold-horned hares and chaotic green talking squirrels. Imagine what it would be like to pit your wits against sphinxes, to swoop out over the sea in a flying coat – and uncover the secret at the heart of the islands that threatens the creatures’ survival, and the world itself.
Rhowch y mic i lawr! Mae’r athro arobryn, seren Sky Kids, llysgennad Diwrnod y Llyfr a’r rapiwr llyfrau enwog, firaol MC Grammar yn mynd i Ŵyl y Gelli i gyflwyno ei gyfres newydd sbon, The Adventures of Rap Kid. Byddwch yn barod i gwrdd â Z, ei gyfaill bît-focsio SFX, eu hathro hynod slic Mr G, a’i dawg Pup Smoke, mewn stori am gyfeillgarwch, pŵer geiriau a dod o hyd i’ch llais. Ewch i gael gafael ar eich bling a’ch sbectols haul, a gwnewch eich ffordd i’r digwyddiad epig hwn sy’n llawn jôcs, tiwniau bangin’, rhigymau gwych, gornest rap sick a’r ddawns fwyaf erioed!
Drop the mic! Award-winning teacher, Sky Kids superstar, World Book Day ambassador and viral book-rapping sensation MC Grammar heads to Hay Festival to introduce his brand-new series, The Adventures of Rap Kid. Get ready to meet Z, his beatboxing sidekick SFX, their super-slick teacher Mr G, and his dawg Pup Smoke, in a story about friendship, the power of words and finding your voice. Grab your bling and your shades and make your way to this epic event jam-packed with jokes, bangin’ tunes, wicked rhymes, a sick rap battle and the greatest dance-off of all time!
Mae’r awdur sydd wedi ennill Gwobr Lyfrau Laugh Out Loud yn nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn y digwyddiad arbennig hwn. Fel athrawes ysgol gynradd, mae Jenny’n trafod yr Ail Ryfel Byd yn rheolaidd yn ei hystafell ddosbarth, ac fe’i hysbrydolwyd i ysgrifennu Shrapnel Boys gan gadernid rhyfeddol pobl Llundain a wnaeth fyw trwy’r rhyfel. Dewch i ddarganfod y profiadau go iawn a ysbrydolodd ei stori am Ronnie, sy’n 11 oed, sydd â bywyd llawn brwydrau – ar y strydoedd, yn yr awyr, yn yr ysgol, gartref. Dysgwch sut beth fyddai bod yn blentyn yn ystod y rhyfel, a chlywed rhywfaint o ffeithiau a ffigurau arswydus sy’n codi o’r cyfnod hwn mewn hanes.
The Laugh Out Loud Book Award-winning author marks the 80th anniversary of the end of WW2 in this special event. As a primary school teacher, Jenny regularly covers WW2 in her classroom and was inspired to write Shrapnel Boys by the extraordinary resilience of Londoners living through the war. Discover the real-life experiences that inspired her story about 11-year-old Ronnie, whose life is full of battles – on the streets, in the sky, at school, at home. Learn what it would have been like to be a kid during the war, and hear some mind-boggling facts and figures from this period of history.
Dewch i gwrdd â’r awdur poblogaidd Ross Welford, wrth iddo gyflwyno’r gyntaf mewn cyfres fformat ddyddiadur newydd doniol, The Unlikely Diary of Prince Kal the Alien. Fel awdur deg llyfr clodwiw, cyffrous, gan gynnwys The 1,000 Year Old Boy a Time Travelling with a Hamster, bydd Ross yn siarad am ei ysbrydoliaeth a’i gymeriadau, ac yn rhoi ei safbwynt hudol ei hun ar adrodd straeon. Bydd hefyd yn arwain ymarfer ysgrifennu creadigol y gall pawb gymryd rhan ynddo. Yn cynnwys triciau hud!
Meet bestselling author Ross Welford as he introduces the first in a hilarious new diary format series, The Unlikely Diary of Prince Kal the Alien. As the author of ten highly acclaimed and page-turning books, including The 1,000 Year Old Boy and Time Travelling with a Hamster, Ross will talk about his inspirations and characters as well as putting his own magical spin on storytelling and leading a creative writing exercise that everyone can join. Magic tricks included!