AWDURON WRTH EU GWAITH

Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2024, eu cyfle datblygiad proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Writers at Work 2024

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2pm, dydd Mawrth 27 Chwefror 2024.

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (23 Mai - 2 Mehefin) o ddydd Gwener 24 Mai i ddydd Sul 2 Mehefin 2024. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan awduron ffuglen (pob genre), awduron ffeithiol-greadigol, a beirdd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw’r rhaglen hon wedi ei hanelu at ddramodwyr nag awduron sgript sgrin. Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi eu geni, eu haddysgu neu yn byw ar hyn o bryd yng Nghymru) neu yn awduron sy’n medru’r Gymraeg sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol gan ddangos tystiolaeth o gyhoeddi, waeth pa mor fychan, mewn print neu ar-lein. Gall gyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol neu yn awduron canol-gyrfa sydd angen cefnogaeth i gyrraedd cam nesaf eu gyrfaoedd.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac y mae 10 lle ar gael.

Bydd yr ymgynulliad unigryw hwn o’r diwydiant llenyddol a chyhoeddi yng Ngŵyl y Gelli yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol.

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei darparu yn rhad ac am ddim ar gyfer y 10 awdur llwyddiannus. Bydd Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru neu’r DU, a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r Ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys. Gŵyl y Gelli fydd yn trefnu’r llety, ond bydd angen i gyfranogwyr ofalu am eu trefniadau teithio eu hunain; a bydd y costau hyn yn cael eu had-dalu.

Sut i ymgeisio

Llenwch y ffurflen gais digidol hon

Gellir lawrlwytho fersiwn print bras a dyslecsia gyfeillgar isod hefyd. Bydd y ffurflen gais yn gofyn am y canlynol:

  • Bywgraffiad awdur – yn cynnwys eich profiadau proffesiynol a chyhoeddiadau (dim mwy na 200 gair).
  • Datganiad yn amlinellu eich amcanion a'ch nodau fel awdur Cymreig, eich ymrwymiad i ddatblygu yn broffesiynol a sut y bydd lle ar y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yn cefnogi hyn (dim mwy na 300 gair).
  • Amlinelliad byr o brosiect cyfredol, neu waith ar y gweill, yn amlinellu sut mae'ch gwaith yn cynnig persbectif newydd i ysgrifennu yng Nghymru (dim mwy na 200 gair).
  • Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ddienw fydd yn cael ei gyrru atoch ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen gais.

Dim ond ceisiadau digidol a dderbynnir, un ai drwy’r ffurflen ddigidol, neu ar e-bost er mwyn cyflwyno fersiwn print bras neu ddyslecsia gyfeillgar at writers@hayfestival.org.

Ni fydd ceisiadau a anfonir drwy'r post a cheisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

I ddarganfod mwy am y broses ymgeisio a dethol, ac i gael trosolwg manylach o'r rhaglen, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

TELERAU AC AMODAU

Nod yr wythnos yw ehangu creadigrwydd, ehangu allbwn, a ffurfio rhwydwaith gefnogol o gyfoedion a chysylltiadau llenyddol a chyhoeddi. Rhaid i chi ymrwymo'n llawn i’r rhaglen gyfan i wneud cais. Er mwyn cymryd rhan y rhaglen hon rhaid i awduron aros yn y Gelli Gandryll o ddydd Gwener 24 Mai (cyrraedd yn y prynhawn) ar gyfer cychwyn ar y gweithdai ar fore Sadwrn 25 Mai, a gadael unai nos Sul 2 Mehefin 2024 neu fore Llun 3 Mehefin. Bydd y rhan fwyaf o'r gweithdai'n dechrau am 10.00 am yn ddyddiol. Bydd disgwyl i bob awdur gwblhau gwerthusiad llawn a manwl o’r wythnos ac ysgrifennu ar gyfer blog Gŵyl y Gelli yn ystod wythnos yr Ŵyl.

Ar ôl darllen y Cwestiynau Cyffredin, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â: writers@hayfestival.org

Cwestiynau Cyffredin

Sut fydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o dîm Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru, a Tiffany Murray – curadur ac arweinydd y rhaglen. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a bwriad clir o ran eich dyheadau a’ch uchelgais fel awdur.

Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar sicrhau grŵp o awduron sydd yn amrywiol ac yn gynrychiadol o ran daearyddiaeth, profiad sgwennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad bywyd fydd wedi ei nodi yn y cais a fydd yn cynnig persbectif newydd i lenyddiaeth yng Nghymru.

Pryd fyddai’n gwybod os yw fy nghais yn llwyddiannus?  
Byddwn yn cysylltu gyda’r holl ymgeiswyr yn ystod yr wythnos sydd yn dechrau 1 Ebrill 2024.

Beth fydd strwythur a chynnwys yr wythnos?

Bydd y rhaglen yn dechrau am 10.00 am fore Sadwrn 25 Mai ar safle’r Ŵyl, ac yn gorffen brynhawn Sul 2 Mehefin, a bydd yn gyfle i chi ymgolli’n llwyr mewn gwledd o gyfleoedd datblygu proffesiynol ar gyfer awduron.  Bydd pob diwrnod yn wahanol, ac yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai, ymweliadau i ddigwyddiadau’r Ŵyl a mwy. Bydd rhagor o wybodaeth am strwythur a chynnwys yr wythnos yn cael ei ddarparu cyn gynted â phosib o flaen llaw. Byddwch yn cwrdd â nifer o siaradwyr, darllenwyr a hwyluswyr gwadd, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn ystod yr wythnos.

Beth yw’r trefniadau arlwyo? Os oes gen i alergeddau neu anghenion dietegol, allwch chi ddarparu ar fy nghyfer?

Byddwch yn derbyn eich prydau (brecwast, cinio, a swper) ar safle’r Ŵyl yng nghyfleusterau arlwyo’r staff. Bydd darpariaeth ar gyfer rheiny ag alergeddau/anghenion dietegol. Bydd coffi, te, a diodydd eraill ar gael drwy gydol y diwrnod. Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen i chi dalu am unrhyw fwyd neu diod fydd wedi eu prynu tu hwnt i gyfleusterau arlwyo’r staff arlwyo neu’r Ystafell Werdd.

Sut fydd fy nghostau teithio yn cael eu ad-dalu?

Byddwn yn ad-dalu costau teithio un ffordd (ail ddosbarth) i’r (ac adre yn ôl o’r) Wŷl oddi mewn i Gymru neu’r DU.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Tocyn Trên Dwy Ffordd Safonol
  • Tocyn Bws Dwy Ffordd Safonol
  • Lwfans Petrol @ 45c y filltir

Gall Treuliau fod yn gyfuniad o’r uchod e.e. tocyn trên a bws. Gallwn brynu tocyn o flaen llaw ar eich rhan, neu gallwch gadw derbynneb, fel arall gallwch lenwi ffurflen arian petrol a bydd eich costau teithio yn cael eu ad-dalu pan fyddwch chi’n cyrraedd yr Ŵyl.

Ble fydda i'n aros?

Bydd yr awduron yn lletya mewn tai yn y Gelli Gandryll neu’r ardaloedd cyfagos, yn dibynnu ar argaeledd. Yn anffodus, mae prinder llety yn ystod yr ŵyl felly ni allwn sicrhau ystafelloedd ensuite.

Os na fydd fy nghais yn llwyddiannus, fydda i'n derbyn adborth?

Yn anffodus, oherwydd ein bod yn disgwyl nifer helaeth o geisiadau, ni fyddwn yn gallu rhoi adborth i bob cais aflwyddiannus. Serch hynny, gyda’ch caniatâd, fel a amlinellir yn adran GDPR y ffurflen gais, efallai y bydd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru yn dymuno cysylltu â chi eto i drafod cyfleoedd pellach.

Ym mha iaith fydd y rhaglen yn cael ei gynnal?

Mae’r rhaglen yn croesawu awduron sy’n ysgrifennu yn Saesneg ac yn Gymraeg. Serch hynny, bydd mwyafrif y rhaglen yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae gen i anabledd neu salwch all ei wneud yn anodd imi gymryd rhan. Allwch chi helpu?

Mae timoedd Gŵyl y Gelli a Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw ofynion mynediad neu ofidiau sydd gennych cyn ac yn ystod y cwrs. Mae safle’r ŵyl yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae gofodau digwyddiadau â dolenni sain (induction loops). Rydym yn caniatáu cŵn tywys. Os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni i drafod hygyrchedd, a byddwn yn gwahodd pob awdur i anfon ffurflen Anghenion Mynediad cyn i’r ŵyl ddechrau.

Oes angen profiad arnaf er mwyn gwneud cais? Neu ydw i’n rhy brofiadol?

Yn bennaf, rydym yn awyddus bod egin awduron ac awduron sydd â pheth profiad ond â llawer o botensial yn elwa o’r cynllun hwn. Nid oes, o reidrwydd, angen llawer o brofiad ysgrifennu arnoch, dim ond syniadau da ac agwedd bositif a phenderfynol. Fel unrhyw grefft arall, mae ysgrifennu yn gallu bod yn heriol ac mae angen llawer o ymdrech ac ymroddiad. Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu’r dulliau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau, a pharhau ar eich taith fel awdur.

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn awdur profiadol, er enghraifft efallai eich bod wedi cyhoeddi llyfr neu bamffled, efallai y byddwch yn dal i ganfod bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf lenyddol neu iaith wahanol. Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth mae profiad yn ei olygu, a lle mae nhw’n credu y maent wedi eu gyrraedd ar eu taith fel awdur.
Literature Wales
Arts Council of Wales
Lottery Funded
Sponsored by Welsh Government