Cardiff University

Cardiff University is recognised in independent government assessments as one of Britain’s leading teaching and research universities and is a member of the Russell Group of the UK’s most research intensive universities. The 2014 Research Excellence Framework ranked the University 5th in the UK for research excellence.

Among its academic staff are two Nobel Laureates, including the winner of the 2007 Nobel Prize for Medicine, Professor Sir Martin Evans.

Founded by Royal Charter in 1883, today the University combines impressive modern facilities and a dynamic approach to teaching and research. The University’s breadth of expertise encompasses: the College of Arts, Humanities and Social Sciences; the College of Biomedical and Life Sciences; and the College of Physical Sciences and Engineering, along with a longstanding commitment to lifelong learning. More at www.cardiff.ac.uk

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sy'n cynnwys y prifysgolion sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil yn y DU. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd y Brifysgol yn bumed ledled y DU am safon ei hymchwil.

Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel 2007 mewn Meddygaeth, yr Athro Syr Martin Evans.

Sefydlwyd y Brifysgol yn sgîl Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cynnwys Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Dyma ragor: www.caerdydd.ac.uk


Website:  www.cardiff.ac.uk

Cardiff University