Academi Gŵyl y Gelli

Rhaglen datblygu sgiliau yw Academi’r Gelli, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc talentog rhwng 18 a 25 mlwydd oed o bob rhan o'r DU i ymuno â thîm Gŵyl y Gelli i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u llwybr gyrfa posibl yn y diwydiannau creadigol, wrth wirfoddoli mewn amgylchedd gwaith proffesiynol.

Mae pobl ifanc sydd wedi mynychu Academi’r Gelli wedi mynd ymlaen i redeg gwyliau, ysgrifennu llyfrau a ffilmiau, ac i fwynhau gyrfaoedd mewn cyhoeddi ac yn y diwydiannau creadigol a'r cyfryngau ehangach.

Myfyrwyr academaidd y Gelli yn Gŵyl y Gelli 2017

Mae yna hyd at 50 o leoedd ar gael yn Academi’r Gelli i wirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr yn y disgyblaethau canlynol:

  • Rheoli digwyddiadau
  • Newyddiaduriaeth – manylion i’w cyhoeddi cyn bo hir
  • Y cyfryngau darlledu
  • Ffotograffiaeth - manylion i’w cyhoeddi cyn bo hir
  • Swyddfa’r wasg

Mae Academi’r Gelli yn gyfle gwych i ennill profiad gwerthfawr yn un o wyliau blaenllaw'r byd. Gallwch gwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, dysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd, a chael dealltwriaeth o’r llwybrau gyrfa posibl sy'n agored i chi, sy’n ei gwneud yn ŵyl na ddylech ei cholli. Mae’r holl fyfyrwyr yn cael tocyn dwyffordd i'r ŵyl, llety a brecwast, a chinio a swper yn y cyfleuster arlwyo i’r criw ar y safle.

RHEOLI DIGWYDDIADAU

Bob blwyddyn, mae Gŵyl y Gelli yn denu rhai o awduron, artistiaid a meddylwyr blaenllaw'r byd, i siarad, rhannu eu meddyliau a'u syniadau, ac i gwrdd â chynulleidfaoedd. Mae sicrhau bod gwesteion yn cael croeso cynnes a gofal da yn ystod eu harhosiad wedi bod yn genhadaeth hanfodol erioed, ac yn un o brif swyddi’r Ŵyl.

Mae angen i’r holl wirfoddolwyr rheoli digwyddiadau sy’n fyfyrwyr fod yn sylwgar ac yn wasanaethgar.  Yn gyfnewid am hynny, maen nhw'n cael cyfle i gwrdd â phobl anhygoel, creadigol, a chael profiad o redeg gŵyl ryngwladol brysur bob dydd, lle mae bod yn brydlon yn bwysig, ac yn anad dim, lle mae perfformwyr a’r gynulleidfa’n gadael wedi cael diwrnod hollol bleserus, cyffrous, sy’n ysgogi’r meddwl.

Mae angen gwirfoddolwyr arnom mewn dau faes:

DIGWYDDIADAU

Mae gwirfoddolwyr rheoli digwyddiadau sy’n fyfyrwyr yn helpu gydag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, sy’n cynnwys cwrdd a chyfarch awduron, cynorthwyo gyda sesiynau llofnodi llyfrau a lletygarwch yn yr ystafell werdd, mynd gydag artistiaid i ddigwyddiadau, helpu i oruchwylio llwyfan a gweithio yn y derbynfeydd. Os oes gennych ddiddordeb arbennig yn y rhaglenni Amgylcheddol, Cerddoriaeth neu Llenyddiaeth Plant, rhowch wybod i ni yn eich llythyr eglurhaol.

GWEITHDAI CREADIGOL

Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 28 Chwefror 2020. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, bydd angen i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad.  Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus neu beidio mor gynnar â phosibl ym mis Mawrth 2020.

Mae gwirfoddolwyr gweithdai creadigol sy’n fyfyrwyr yn cynorthwyo awduron, darlunwyr ac arweinwyr gweithdai i baratoi a rhedeg gweithdai. Maen nhw hefyd yn helpu gyda digwyddiadau llofnodi llyfrau a lletygarwch yn yr ystafell werdd, ac yn helpu i oruchwylio llwyfan.  Gallai'r rolau hyn fod o ddiddordeb i'r rheiny sydd â diddordeb arbennig yn y celfyddydau gweledol ac / neu mewn darlunio.

DYDDIADAU

Dyddiadau gŵyl 2020 yw dydd Iau 21 Mai tan ddydd Sul 31 Mai. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael trwy gydol yr ŵyl.

pwy sy’n cael GWNEUD CAIS?

Rydym yn edrych am 24 o bobl ifanc rhwng 18 a 25 mlwydd oed, sydd yn gallu dangos eu bod yn frwd am y celfyddydau ac sydd â diddordeb mewn rheoli digwyddiadau.

I wneud cais am y rôl Rheoli Digwyddiadau, anfonwch CV a llythyr eglurhaol byr at ellen@hayfestival.com.  I wneud cais am y rôl Gweithdai Creadigol, anfonwch CV a llythyr eglurhaol byr at adrian@hayfestival.org

Y dyddiad cau ar gyfer anfon y ddau gais ydy 28 Chwefror 2020, a byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus neu beidio mor gynnar â phosibl ym mis Mawrth 2020. Nodwch pa rôl rydych chi'n gwneud cais amdani neu’r rôl y byddai’n well gennych ei chael. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer cyfweliad Skype byr.

Y CYFRYNGAU DARLLEDU

Mae Gŵyl y Gelli wedi bod yn recordio cynnwys digidol am fwy nag ugain mlynedd, ac mae ganddi lawer o brofiad o ran deall y cymhlethdodau sy’n ymwneud â recordio fideo a sain o lwyfannau byw. Bob blwyddyn, rydym yn gweithio gyda myfyrwyr i helpu gyda defnyddio camerâu byw mewn tri o'n prif leoliadau. Bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy cyn yr Ŵyl, a fydd yn cynnwys fframio, ffocysu a chydbwyso lliwiau. Yn yr Ŵyl, bydd myfyrwyr yn defnyddio camerâu darlledu, a byddant yn gweithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr a thechnegwyr proffesiynol, ac yn ffilmio tua 200 o ddigwyddiadau dros 11 diwrnod yr Ŵyl.


Mae’r digwyddiadau sydd yn cael eu recordio yn cael eu rhannu â chynulleidfaoedd trwy sgrinio byw ac yn rhyngwladol trwy ein partneriaid yn y cyfryngau ar BBC Arts ar-lein a BBC iPlayer, ac ar y sianelau cyfryngau cymdeithasol Hay a Hay Player. Mae'n gyfle gwych i weithio mewn amgylchedd byw, a ffilmio rhai o ysgrifenwyr ac artistiaid gorau’r byd. Bydd yr holl fyfyrwyr yn ennill profiad hanfodol ym maes recordio byw.

DYDDIADAU

Bydd angen i’r holl ymgeiswyr fod ar gael i fynychu diwrnod gweithdy hyfforddiant rhagarweiniol ym mis Mai 2020. Dyddiadau gŵyl 2020 yw dydd Iau 21 Mai tan ddydd Sul 31 Mai. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael trwy gydol yr Ŵyl.

PWY SY’N CAEL GWNEUD CAIS?

Rydym yn edrych am 10 o fyfyrwyr graddedig neu ôl-raddedig ym maes ffilmiau neu’r cyfryngau darlledu, dim mwy na 25 mlwydd oed, sy'n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant teledu, sinema neu ffilmiau corfforaethol. 

Anfonwch CV, gan gofio cynnwys pa gamerâu rydych chi wedi'u defnyddio ac ym mha gyd-destun rydych chi wedi'u defnyddio, drwy e-bost at adrian@hayfestival.org. 

Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 28 Chwefror 2020, a byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus neu beidio mor gynnar â phosibl ym mis Ebrill 2020.

SWYDDFA’R WASG

Dros 11 diwrnod yr Ŵyl, rydym yn croesawu newyddiadurwyr, y wasg a darlledwyr o bob rhan o'r byd, sydd i gyd yn awyddus i rannu eu straeon, eu herthyglau a'u lluniau o'r ŵyl gyda chynulleidfa fyd-eang. Mae gwirfoddolwyr swyddfa'r wasg wedi eu lleoli yn swyddfa'r Wasg ar safle'r Ŵyl, ac yn gweithio gyda'n Cyfarwyddwr Cyhoeddusrwydd i helpu i fodloni anghenion gwasg y byd. Byddwch yn helpu gyda thasgau fel cyfarch a helpu newyddiadurwyr, cadarnhau achrediad gan y wasg, casglu adroddiadau dyddiol gan y wasg, a hwyluso cyfweliadau gydag awduron a pherfformwyr.

Mae swyddfa'r Wasg yn brysur dros ben, ac mae'n rhoi profiad amhrisiadwy i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y wasg ac ym maes chyhoeddusrwydd. Mae’n rhaid i chi fod yn gyfathrebwr ardderchog, yn uchel eich cymhelliant ac yn drefnus.

DYDDIADAU

Bydd angen i’r ymgeiswyr ar gyfer Swyddfa’r Wasg fod ar gael o 20 Mai tan 31 Mai.  Dyddiadau gŵyl 2020 ydy dydd Iau 21 Mai tan ddydd Sul 31 Mai.

PWY SY’N CAEL GWNEUD CAIS?

Rydym yn chwilio am dri myfyriwr graddedig, dim mwy na 25 mlwydd oed, sy’n awyddus i gael profiad ym meysydd cyhoeddusrwydd a digwyddiadau yn y celfyddydau. 

Anfonwch CV, llythyr eglurhaol byr ac esiampl o’ch gwaith at christopher@hayfestival.org

Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 28 Chwefror 2020. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, bydd angen i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad.  Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr a ydynt wedi bod yn llwyddiannus neu beidio mor gynnar â phosibl ym mis Mawrth 2020.