Cafodd rhaglen y Sgriblwyr Cymraeg ei hymestyn yn 2024, i redeg am 5 diwrnod mewn prifysgolion ar draws Cymru rhwng 4 ac 8 Tachwedd.
Cyflwynwyd y gweithdai Cymraeg AM DDIM hyn i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8, 9) i chi fel rhan o Daith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli.
Roedd bwrsariaethau teithio ar gael drwy wneud cais am Gronfa Ewch i Weld CCC chwe wythnos cyn y digwyddiad.
Fe wnaeth ysgrifenwyr o fri, y cartwnydd Siôn Tomos Owen a'r comedïwr Leila Navabi arwain digwyddiadau creadigol a rhyngweithiol, oedd yn dathlu'r iaith Gymraeg, gyda sesiynau gan y prifysgolion hefyd. Cyflwynwyd y digwyddiadau gan y bardd a'r perfformwraig Anni Llŷn.
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe ddigwyddiad ar gyfer disgyblion Cymraeg ail iaith am y tro cyntaf ar ddydd Iau, 7 Tachwedd 2024, mewn cydweithrediad â’r rhaglen Ymestyn yn Ehangach.
Mae Siôn Tomos Owen yn gyflwynydd, gwawdluniwr, awdur ac yn ddarlunydd dwyieithog. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, comics, llyfrau i ddysgwyr ac e-lyfrau i blant gyda Darllen Co. Mae hefyd yn cynnal gweithdai creadigol, yn creu murluniau ac yn creu gwawdluniau mewn gwyliau trwy ei gwmni CreaSion.
Ar gyfer ei sesiwn Sgriblwyr, mae’n archwilio y bydoedd y gallwn eu hadeiladu a’r straeon y gallwn greu ar gyfer pobl rydym yn eu gweld bob dydd.
Mae Leila Navabi yn ysgrifennwr, cynhyrchydd a digrifwr. Mae hi wedi gweithio ar raglenni fel Bad Education, Nevermind the Buzzcocks ac ar ei rhaglen sitcom ei hun Vandullz. Yn y gweithdy hwn, bydd hi'n gofyn i chi rannu beth sy'n gwneud i chi chwerthin a wedyn, bydd yn dangos i chi sut i ysgrifennu sgetsh o ansawdd teledu o’r dechrau i'r diwedd.
Mae staff prifysgol o Adrannau Cymraeg yn cyflwyno sesiynau ysgrifennu creadigol neu daith prifysgol i fyfyrwyr Sgriblwyr Cymraeg, gan roi blas o fywyd ar y campws iddynt.
Mae Anni Llŷn yn awdur, bardd a sgriptiwr sydd wedi gweithio ar sawl prosiect i blant a phobol ifanc yn y byd cyhoeddi, adnoddau digdol ac ar gyfer y teledu. Gyda chefndir fel cyflwynydd teledu i blant a’i chyfnod yn Fardd Plant Cymru, mae ei gweithdai creadigol yn aml yn ymwneud â dychymyg ac adloniant.
10.15am | Ysgolion yn cyrraedd |
10.15am–10.30am | Cyflwyniad |
10.30am–11.15am | Digwyddiad 1 – Siôn Tomos Owen |
11.15am–11.30am | Egwyl |
11.30am–12.15pm | Digwyddiad 2 – Leila Navabi |
12.15pm–1pm | Cinio |
1pm–1.45pm | Digwyddiad 3 – Sesiwn y Brifysgol |
1.45pm–2pm | Cyfle i’r disgyblion ac athrawon werthuso |
2pm | Diwedd |
Gweithdai Cymraeg digidol rhad ac am ddim a gyflwynir i chi yn rhan o Daith y Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ac sydd ar gael i’w gwylio eto yn rhydd.
Ymunwch â’r beirdd a’r awduron Gruffudd Owen, Rufus Mufasa, Mererid Hopwood, Aneirin Karadog ac Anni Llŷn ar gyfer y digwyddiadau digidol creadigol a rhyngweithiol, rhad ac am ddim hyn sy’n canolbwyntio ar leoliad, tirwedd a hunaniaeth i ddathlu’r Gymraeg.