Cwestiynau Cyffredin

Beth ydy Penwythnos y Gaeaf?

Mae Penwythnos y Gaeaf yn fersiwn llai o'r brif ŵyl, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau yng nghanol y dref. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng dydd Iau 23 i ddydd Sul 26 Tachwedd 2023.

Ym mhle mae’r Ŵyl?

Yn y Gelli Gandryll, a gafodd ei henwi’n ddiweddar gan arolwg Which? fel y 'dref orau yng Nghymru' ac un o'r goreuon yn y DU!  Mae'r Gelli wedi'i lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog. Rydym rhwng Henffordd ac Aberhonddu, ychydig oddi ar yr A438 – ewch i’r dudalen teithio. 

Sut ydw i’n archebu tocynnau?

Y ffordd orau o archebu tocynnau yw ar-lein.

Os ydych chi eisiau archebu dros y ffôn, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01497 822 629. Byddwn yn gallu prosesu eich archeb yn fwy effeithlon os oes gennych rifau'r digwyddiadau rydych chi’n archebu ar eu cyfer.

Mae’r ffôn yn cael ei ateb rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a thrwy'r dydd tan yn hwyr yn ystod Penwythnos y Gaeaf.  Os na fyddwch yn mynd drwodd ar unwaith, gadewch neges, a bydd aelod o staff y swyddfa docynnau yn eich ffonio'n ôl.

Gallwch archebu tocynnau mewn person yn Swyddfa Docynnau Gŵyl y Gelli. Yn ystod y cyfnod cyn yr ŵyl, mae'r Swyddfa Docynnau wedi'i lleoli yn The Drill Hall, 25 Lion Street, y Gelli Gandryll, HR3 5AD.  Yn ystod Penwythnos y Gaeaf, bydd y Swyddfa Docynnau yn symud i'r prif leoliad, a bydd ar agor o ddechrau digwyddiad cyntaf pob diwrnod, tan ddechrau'r digwyddiad diwethaf.

Rydym yn derbyn cardiau credyd a debyd, sy’n cynnwys Visa, Mastercard ac Amex. Dim ond mewn person y byddwn yn derbyn taliadau arian parod - peidiwch ag anfon arian parod atom drwy'r post.

Ble mae fy nhocynnau?

Aae'r holl docynnau ar gyfer yr Ŵyl bellach yn rhai electronig neu'n 'e-docynnau'. Mae hyn yn golygu y bydd eich tocynnau'n cael eu hanfon yn syth i'ch cyfeiriad e-bost. Bydd eich tocynnau’n cael eu hanfon atoch chi tua wythnos cyn yr ŵyl. Pan fyddwch yn derbyn eich tocynnau, gallwch ddewis eu lawrlwytho i'ch dyfais symudol eich hun, neu eu hargraffu. Bydd tocynnau'n cynnwys cod bar unigryw, a dim ond unwaith y gellir eu hargraffu.

Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad, bydd stiward yn sganio eich tocyn. Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost, ffoniwch y Swyddfa Docynnau, a byddwn yn trefnu i'ch tocynnau gael eu hargraffu a'u postio yn y ffordd draddodiadol.

Parcio

Gallwch barcio ar gyfer Penwythnos y Gaeaf ym maes parcio Oxford Road (HR3 5EQ) yng nghanol y Gelli Gandryll.

Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos arhosiad hir ar gyfer pob mathau o gerbydau. Dylech ddarllen yr arwydd yn y maes parcio i weld y manylion tariff presennol a’r amodau parcio llawn.

Llety

Findmeabed.co.uk yw'r gwasanaeth llety a'r asiant archebu swyddogol ar gyfer Hay Festival.

Mae Find Me A Bed yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am y Gelli a'r cyffiniau, a bydd Sarah yn hapus i'ch helpu gyda'ch ymholiadau llety. E-bostiwch info@findmeabed.co.uk, ffoniwch Sarah ar 07375 396 748, neu cliciwch yma i weld y llety sydd ar gael.

Gallwch ddod o hyd i lety drwy’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Dwristiaid hefyd – ewch i llety.

Pa mor hygyrch ydy’r safleoedd?

Mae gan bob un o'r lleoliadau fynediad i gadeiriau olwyn. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01497 822 629 os oes gennych ofyniad penodol o ran hygyrchedd, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud eich ymweliad mor hawdd â phosibl. Mwy am hygyrchedd yn Ystod Penwythnos y Gaeaf.

Pwy yw Cyfeillion Hay Festival ac ydy’r manteision o ddod yn Gyfaill yn cael eu hymestyn i Benwythnos y Gaeaf?

Mae ein Cyfeillion yn gefnogwyr teyrngar, ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad yn fawr iawn. Am ffi aelodaeth flynyddol, mae ein Cyfeillion yn cael tridiau o flaenoriaeth wrth archebu ar bob tocyn rydym yn eu rhyddhau (yn cynnwys Penwythnos y Gaeaf). Dewch yn Gyfaill i'r ŵyl.

Sut mae’r awduron yn cael eu dewis?

Rydym yn gwahodd awduron, artistiaid, academyddion, meddylwyr a pherfformwyr a edmygwn. Rydym yn ceisio cyflwyno'r artistiaid cyfoes mwyaf a'r lleisiau newydd mwyaf cyffrous i'n cynulleidfaoedd. Mae cyfarwyddwyr yr ŵyl yn siarad â chyhoeddwyr, awduron ac amrywiaeth enfawr o ymgynghorwyr - gan gynnwys nifer o fynychwyr yr Ŵyl ei hun.

Beth yw polisi’r ŵyl ar ffotograffiaeth?

Dim ond ffotograffwyr achrededig sydd yn gallu tynnu lluniau o ddigwyddiadau, ac mae’n rhaid gofyn am achrediad gan swyddfa'r wasg. Dylech geisio parchu hawlfraint a chywirdeb-integrity? rhaglen yr Ŵyl wrth rannu delweddau ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall ffotograffwyr achrededig yr Ŵyl ffilmio a/neu dynnu lluniau o ymwelwyr i'r Ŵyl ar gyfer adroddiadau, ac i hyrwyddo'r Ŵyl yn y dyfodol.

Ydy’r ŵyl yn dda i deuluoedd?

Mae yna raglen greadigol wych i blant, a gallwch fwynhau'r awyrgylch Nadoligaidd arbennig yn y dref a mwynhau'r cefn gwlad mwyaf prydferth ym Mhrydain.  

Beth ydy’r polisi diogelwch i blant?

Mae’n rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni rhiant neu warcheidwad bob amser, gan gynnwys yn ystod digwyddiadau ac mewn gweithdai, oni nodir fel arall yn y rhaglen. Y Pwynt Cyfarfod i Blant Coll ydy’r fynedfa i’r prif safle.

A gaf i ddod â fy nghi ar y safle?

Yn anffodus, dim ond cŵn cymorth sy'n cael mynychu digwyddiadau Hay Festival. Gobeithio na fydd hyn yn eich atal rhag dod i'r ŵyl. Mae'r dref a'r ardal o gwmpas y Gelli’n grêt i gŵn. Mae yna nifer o deithiau cerdded hyfryd gerllaw, gan gynnwys yn y mynyddoedd uwchben y Gelli a'r llwybr ar hyd yr afon. Ewch i wefan y Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid am syniadau pellach.

Funded by UK Government
Powered by Levelling Up
Powys Council
Growing Mid Wales